Cyflwyniad Llamau i’r Pwyllgor Cyllid:

 

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

 

 

Cyflwyniad

Mae gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol. Mae'r galw am wasanaethau Llamau wedi cynyddu'n sylweddol, ac rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc rydym yneu cefnogi sy'n cyflwyno anghenion cymorth cymhleth iawn. Mae ein cyllid ar gyfer 'Cymorth sy'n Gysylltiedig â Thai', ac eto mae'n rhaid i ni ddarparu cymaint mwy na hynny, nad yw wedi'i gynnwys yn y contractau presennol nac yn cael eu talu amdano. Mewn rhai achosion, y gwaith hwn sydd yn llythrennol yn cadw pobl sydd â hanes o hunan-niweidio difrifol, neu ymdrechion i gyflawni hunanladdiad, yn fyw.

Mae cost darparu gwasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol, er nad oes unrhyw gynnydd i'r Grant Cynnal Tai. Mae llawer o’n contractau’n cael eu talu rhwng 20% a 30% yn llai na’r gost wirioneddol ar gyfer ariannu’r gwasanaethau hyn, gan nad oeddent yn ystyried y cynnydd mewn chwyddiant. Rydym eisoes yn rhoi cymhorthdal i gontractau gwerth isel drwy ein gweithgareddau codi arian elusennol ein hunain, ond wrth i unigolion a busnesau brofi problemau costau byw tebyg, mae hwn wedi dod yn amgylchedd llawer mwy heriol.

 

Yn ogystal, mae comisiynwyr eisoes yn dweud wrthym fod ymyrraeth gynnar, atal, a gwasanaethau cymorth fel y bo’r angen dan fygythiad wrth iddynt ganolbwyntio ymdrechion ar wasanaethau argyfwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais i’w groesawu ar bwysigrwydd ymyrraeth gynnar i gyflawni’r uchelgais o wneud digartrefedd yn brin, yn fyr ac yn ddi-ail, ond unwaith y bydd y gwasanaethau hyn wedi’u colli, yn syml iawn, ni fydd y sector yn gallu bodloni nodau’r Papur Gwyn ar Derfynu Digartrefedd yng Nghymru.

 

 

Cynnydd yn y galw am wasanaethau:

Derbyniodd ein Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid y nifer uchaf o alwadau y mis diwethaf, cynnydd o 50% ers misoedd blaenorol, gan amlygu’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn argyfwng a phwysigrwydd gwasanaethau adnabod, atal ac ymyrryd yn gynnar.

Mae atgyfeiriadau wedi parhau i gynyddu ar gyfer lleoedd lloches ar draws Llamau, gyda 279 o atgyfeiriadau ar gyfer ein 64 o leoedd yn 2022/23 (cynnydd o 114 neu 69% ers y llynedd). Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom gynyddu capasiti trwy agor 2 loches gwasgaredig (yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful). Roedd y galw am leoedd yn golygu nad oeddem yn gallu darparu ar gyfer 90 o atgyfeiriadau gan fod llochesi’n llawn, ac nid oedd 16 arall yn gallu cael cymorth yn y gofod a oedd ar gael oherwydd eu hanghenion cymorth a/neu faint y teulu. 

Yn y gymuned, derbyniodd ein gwasanaethau Cymorth fel y bo'r Angen 475 o atgyfeiriadau, cynnydd o 20% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

 

Llesiant a chadw staff

 

Mae recriwtio a chadw staff ar draws y sector yn hynod o anodd. Mae pobl yn gadael am swyddi llai straenus a chyflogau uwch mewn mannau eraill. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ein gallu i recriwtio a chadw staff. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gorfod defnyddio gweithwyr asiantaeth i lenwi swyddi gwag am y tro cyntaf. Mae costau gwneud hyn yn uchel iawn o gymharu â staff cyflogedig ac, o ystyried y galw cynyddol ar draws yr holl ddarparwyr cymorth, mae’n farchnad gystadleuol iawn.

 

Nid yw codiadau’r Cyflog Byw Cenedlaethol wedi’u cynnwys yn ein cyllid dan gontract, felly disgwylir i ni ddod o hyd i’r arian o rywle arall. Er ein bod yn croesawu’r cynnydd i gydweithwyr, nid oes gennym unrhyw arian ychwanegol i dalu amdano. Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae ein staff ar y cyflogau isaf bellach yn profi’r un problemau â’r bobl rydym yn eu cefnogi, megis anallu i dalu biliau, fforddio siopau bwyd, neu dalu rhent.

 

Mae'r sefyllfa hon yn anghynaladwy. Rhoddwyd cyllid i wasanaethau gofal yng nghylch cyllideb y llynedd i ddarparu cyflogau Cyflog Byw Gwirioneddol i staff, ond ni ddigwyddodd hyn ar gyfer gwasanaethau cymorth. Mae cyllidebau llinell sefydlog wedi arwain at ddatchwyddiant cyflog, a dyma brif achos y broblem recriwtio a chadw yn y sector.

 

Mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â gwariant ataliol yn cael ei gynrychioli mewn dyraniadau adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau ac yn lleddfu’r galw ar wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar).

Mae comisiynwyr yn dweud wrth y sector fod gwasanaethau atal mewn perygl gan fod angen iddynt ganolbwyntio arian ar ymyriadau mewn argyfwng oherwydd diffyg cyllid. Mae hon, yn ein barn ni, yn economi ffug gan fod y gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar yn arbed arian yn y tymor hwy, fel y dengys yr enghreifftiau hyn:

 

A yw’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau trydydd sector, sy’n wynebu mwy o alw am wasanaethau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw a’r pandemig, yn ddigonol?

Wrth adael y pandemig, rydym wedi gweld cynnydd yng nghymhlethdod anghenion a risg ar gyfer y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, gyda mwy o brofiad o drawma ac anghenion iechyd meddwl a lles cysylltiedig. Mae hyn ar adeg pan fo cymorth gan asiantaethau eraill yn fwy anodd ei gyrchu. 

Mae nifer y menywod sy’n wynebu digartrefedd oherwydd cam-drin domestig yn cynyddu. Fodd bynnag, mae hefyd wedi bod yn arafu argaeledd eiddo symud ymlaen i fenywod a theuluoedd oherwydd galw digynsail am lety, a phwysau digartrefedd mwy cyffredinol.

Nid yw’r argyfwng costau byw ond wedi gwaethygu’r broblem, ac eto nid yw cyllid yn cyd-fynd â’r galw cynyddol am wasanaethau cymorth.

 

 

Casgliad

Mae Llamau bob amser wedi ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cymorth effeithiol o ansawdd uchel, ond mae'n anodd gweld sut y gellir cynnal gwasanaethau ar y lefel bresennol heb gynnydd mewn cyllid drwy'r HSG. Bydd hyn yn ei dro yn gweld llawer mwy o bobl yn methu â chael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt mewn modd amserol.

Mae'r sector cyfan yn cael trafferth gyda galw cynyddol, cymhlethdod anghenion a diffyg cyllid. Mae Llamau, ynghyd â darparwyr cymorth eraill, wedi penderfynu peidio ag ail-dendro ar gyfer rhai gwasanaethau gan na ellir eu darparu i'r safon angenrheidiol gyda'r cyllid sydd ar gael. Nid oes unman ar ôl i fynd o ran arbedion cost.

Heb godiad i'r Grant Cynnal Tai am y flwyddyn ariannol 2024/25, mae perygl gwirioneddol y bydd gwasanaethau’n dymchwel, yr agenda ymyrraeth gynnar yn cael ei cholli – a chyda hynny, y cyfle i gyflawni’r newid unwaith mewn cenhedlaeth a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ar Derfynu Digartrefedd yng Nghymru.